Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 13 Gorffennaf 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
10:00 - 11:05 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Janet Finch-Saunders Vaughan Gething Elin Jones Darren Millar Lynne Neagle Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Lesley Griffiths, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol David Sissling, Llywodraeth Cymru Rob Pickford, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Dafydd (Clerc) Claire Morris (Clerc) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2. Deisebau a gyfeiriwyd at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (10:00 - 10:10)
2.1 Trafododd y Pwyllgor ddwy ddeiseb a gyfeiriwyd gan y Pwyllgor Deisebau: P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus a P-03-301 Cydraddoldeb i’r Gymuned Drawsryweddol
2.2 Cytunwyd y byddai’r Pwyllgor yn ailystyried y deisebau yn yr hydref, pan fyddai ei raglen waith yn fwy eglur.
2.3 Byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Pwyllgor Deisebau i’w gynghori ynghylch trafodaethau a chasgliadau’r Pwyllgor.
3. Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Blaenraglen Waith (10:10 - 10:30)
3.1 Trafododd y Pwyllgor bynciau posibl ar gyfer ymchwiliad byr â ffocws pendant iddo i’w lansio dros doriad yr haf.
3.2 Cytunwyd y byddai’r Pwyllgor yn lansio dau ymchwiliad:
· Cyfraniad fferyllaeth gymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru; a
· Lleihau’r risg o gael strôc.
3.3 Byddai cylch gorchwyl drafft ar gyfer y ddau ymchwiliad yn cael ei ddosbarthu i Aelodau mewn e-bost i’w gymeradwyo fel y gellir dechrau’r ymchwiliad dros yr haf.
3.4 Byddai’r Gwasanaeth Ymchwil yn paratoi papur cwmpasu ar ofal preswyl i’w ystyried yn yr hydref fel pwnc posibl ar gyfer ymchwiliad tymor hwy.
4. Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
5. (10:30 - 11:00)
4.1 Croesawodd y Cadeirydd Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd A Gwasanaethau Cymdeithasol, a Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, i’r cyfarfod.
4.2 Amlinellodd y Gweinidogion eu blaenoriaethau ar gyfer yr agenda iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a gwnaethant ateb cwestiynau gan yr Aelodau am y blaenoriaethau hyn.
4.3 Derbyniodd y Pwyllgor gynnig y Dirprwy Weinidog i gyflwyno papur briffio ar y materion ynghylch gofal preswyl gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.
4.4 Diolchodd y Cadeirydd i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog am ddod i’r cyfarfod.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.